Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno siarter i gryfhau’r Gymraeg gerbron Cyngor Sir Gaerfyrddin heddiw.
Fe fydd cynrychiolwyr o Gymdeithas yr Iaith yn lansio Siarter Sir Gâr sydd yn ymwneud â meysydd tai a chynllunio, addysg, iechyd, hamdden a defnydd y Gymraeg o fewn y Cyngor Sir. Dywed Cymdeithas bod y siarter “yn ddogfen o alwadau radical, ond ymarferol, i’r Cyngor eu gweithredu.”
Bydd yn cael ei gyflwyno i arweinydd y Cyngor, Kevin Madge, y prif weithredwr cynorthwyol, Chris Burns a’r Cynghorydd Mair Stephens sydd yn dal portffolio’r iaith Gymraeg ar gabinet y Cyngor Sir.
Dywedodd Heledd ap Gwynfor, aelod o Gymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin: “Er i’r Cyngor sefydlu grŵp i edrych ar sefyllfa’r Gymraeg yn y sir mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad mae’n bwysig i ni weld gweithredoedd.
“Mae’r Siarter yn ddogfen sydd yn cynnwys pob sector gan fod y Gymraeg yn rhywbeth sydd yn berthnasol i bob agwedd o fywyd, nid yn rhywbeth ar wahân neu yn ychwanegol.
‘Angen i’r cyngor fod yn flaengar’
Wrth sôn am rai o’r galwadau penodol dywedodd Cen Llwyd, llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gymunedau cynaliadwy: “Mae datblygu tai wedi bod yn bwnc sydd wedi cael tipyn o sylw yn y sir yn ddiweddar oherwydd dau ddatblygiad sydd yn cael eu gwrthwynebu gan drigolion lleol.
“Yn siambr y Cyngor bythefnos yn ôl trechwyd cynnig i alw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu corff statudol i ystyried effaith cynlluniau datblygu ar yr iaith Gymraeg. Rydyn ni felly yn galw ar y cyngor i sefydlu cynllun peilot arbrofol yn y sir i’r perwyl hynny.
“Mae angen i’r Cyngor fod yn flaengar os ydynt o ddifrif dros greu cymunedau Cymraeg.”
‘Angen i bobl allu byw yn Gymraeg’
Ychwanegodd Sioned Elin, Cadeirydd y rhanbarth yn Sir Gaerfyrddin: “Mae nifer o alwadau yn y siarter y gallai’r Cyngor dechrau eu gweithredu yn syth – rhoi cynllun ar waith i newid iaith weinyddol y cyngor sir – gan ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd, a chydnabod fod y Gymraeg yn sgil hanfodol y dylai’r Cyngor alluogi pawb i feddu arni.
“Wrth i Gyngor Sir Gaerfyrddin edrych i’r dyfodol mae’n rhaid i’r Cyngor ystyried sut i alluogi pobl i fyw mewn cymunedau Cymraeg ar draws y sir.
“Mae’n golygu sicrhau bod gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ar gael – fel addysg, darpariaeth hamdden, swyddi gwerth chweil, a thai addas i deuluoedd a phobl ifanc. Rydyn ni’n disgwyl i’r Cyngor greu amgylchiadau i bobl allu byw yn Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, byddai gweithredu’r siarter yn cyfrannu at wneud hynny’n bosibl.”