Ian Brady a Myra Hindley
Tybed a allai rhaglen ddogfen newydd ar fywyd y llofrudd, Ian Brady, gynnig cliw newydd i’r rheiny sydd wedi bod yn chwilio am fedd un o’r plant?

Mae’r rhaglen deledu, Brady and Hindley: Possession yn dangos ffotograffau du a gwyn a gafodd eu tynnu gan y ddau lofrudd ar eu teithiau i Saddleworth Moor a mannau eraill.  

Ac mae’n holi, tybed a yw corff Keith Bennett, 12 oed, wedi ei gladdu bron i 40 milltir o Saddleworth Moor, ger Ramshaw Rocks yn Swydd Stafford. Mae un o’r ffotograffau o’r llofruddwyr yn eu dangos yno.

Mae’r heddlu’n credu y gallai’r lluniau hyn fod yn gliw a allai eu harwain at y fan lle cafodd Keith Bennett, ei gladdu. Mae’r mater wedi bod yn ddirgelwch ers bron i hanner canrif.

Fe gafodd y bachgen ei gipio a’i lofruddio gan Ian Brady a Myra Hindley yn 1964.