Yr Arglwydd Rennard
Mae’r cyn-Brif Weithredwr y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael ei holi gan yr heddlu ynglyn â honiadau ei fod wedi aflonyddu’n rhywiol ar ymgyrchwyr benywaidd y blaid.
Mae llefarydd ar ran Scotland Yard wedi cadarnhau fod dyn 52 oed wedi mynd i orsaf yr heddlu o’i wirfodd heddiw, i gael ei holi.
Mae cyfreithwyr yr Arglwydd Rennard wedi gwneud datganiad: “Fe allwn ni gadarnhau fod yr Arglwydd Rennard wedi cytuno i gyfarfod yr heddlu.
“Mae’n croesawu’r cyfle cynta’ hwn i wadu a gwrthod yn llwyr yr honiadau sydd wedi eu gwneud yn ei erbyn.
“Fyddwn ni ddim yn gwneud datganiadau pellach nes y bydd ymchwiliad yr heddlu ar ben.”