Y Cynghorydd Dyfrig Jones
Mae un o gynghorwyr Gwynedd sydd wedi penderfynu peidio â sefyll yn y ras i fod yn ymgeisydd nesa’ Plaid Cymru yn Arfon, wedi cefnogi cyd-gynghorydd.

Yn ei sylwadau diweddara’ yn ei flog, sydd i’w gweld yn gyflawn yma, mae’r darlithydd a’r cynghorydd sir, Dyfrig Jones, yn cefnogi Sian Gwenllian yn y ras i olynu Alun Ffred Jones.

Roedd disgwyl y byddai Dyfrig Jones ei hun yn sefyll am enwebiad Cangen Plaid Cymru Arfon ar gyfer etholiadau 2016, ond fe gyhoeddodd ym mis Mai na fyddai hynny’n digwydd – a hynny, meddai, am gyfuniad o resymau teuluol a gwleidyddol.