Fe fydd teulu’r milwr Lee Rigby yn derbyn cymorth ariannol o’r math a dderbynnir gan deuluoedd milwyr sy’n cael eu lladd tra ar ddyletswydd.

Mewn datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin y pnawn yma, dywedodd Arweinydd y Tŷ, Andrew Lansley AS, ei fod yn falch o gyhoeddi y bydd teulu’r drymiwr a gafodd ei ladd ar y stryd yn Woolwich yn derbyn cymorth.

Dywedodd Andrew Lansley: “Rwy’n falch o ddatgan y bydd gweddw a phlentyn Lee Rigby yn derbyn cymorth ariannol… gall hyn gynnwys pensiwn gweddw, grant profedigaeth a thaliadau trwy gynllun iawndal y lluoedd arfog.” 

Cafodd Lee Rigby, 25 o Middleton Manceinion ei lofruddio ar stryd yn Woolwich fis Mai mewn ymosodiad a ddisgrifwyd fel ymosodiad terfysgol.

Mae’r ddau ddyn a gyhuddwyd o ladd Lee Rigby, sef Michael Adebowale ac Michal Adebolajo wedi eu cadw yn y ddalfa.

Mae ymddiriedolwyr Cofeb y Lluoedd Arfog wedi cyhoeddi yn barod y bydd enw Lee Rigby yn cael ei roi wrth ochr milwyr eraill ar safle’r gofeb yn Swydd Stafford.