97.56% yn credu y dylai Prydain aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd
Dafydd Morgan sy’n dadansoddi canlyniadau pôl piniwn diweddar a gafwyd ymysg darllenwyr Golwg360…
Mae mwyafrif helaeth o ddarllenwyr Golwg360 y blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn ôl pôl piniwn diweddar.
Cred 97.56% o’r rhai atebodd y pôl piniwn y dylai’r Deyrnas Unedig aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, gyda 2.44% am adael.
Mae hyn yn fwyafrif anferth, ac yn dangos yn glir sut mae darllenwyr Golwg360 yn teimlo ynglŷn â’r Undeb Ewropeaidd.
Gallwn gymryd o hyn hefyd bod y galw am adael yr Undeb Ewropeaidd yn rhywbeth sydd i’w weld yn fwy cyffredin yn Lloegr nag yng Nghymru. Fe wnaeth UKIP, plaid sydd am adael yr UE, yn dda yn yr etholiadau lleol yn Lloegr, ond nid dyna oedd y stori yng Nghymru, gan nad enillodd yr un ymgeisydd UKIP yn ynys Môn.
Er hyn, syndod ydyw bod y nifer o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd mor uchel. Mae’n rhaid cofio bod gan Gymru Aelod Seneddol Ewropeaidd (ASE) o UKIP, John Bufton, ac felly mae yna nifer sylweddol yng Nghymru, digon i ethol ASE, sydd o’r farn y dylai’r Deyrnas Unedig adael yr UE.
72.5% yn erbyn cynnal refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd
Refferendwm
Gofynnwyd hefyd yn y pôl piniwn a ddylai’r Deyrnas Unedig gynnal refferendwm ar ei haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Cred 27.5% y dylid cynnal refferendwm, gyda 72.5% yn erbyn cynnal refferendwm.
Efallai bod cynifer o refferenda yn ddiweddar yng Nghymru – rhwng refferendwm 1997 a 2011 ar ddatganoli, a refferendwm 2011 ar Y Bleidlais Amgen – wedi troi ar ddarllenwyr Golwg360.
Yr hyn oedd yn ddiddorol o’r canlyniad yma oedd y ffaith nad oedd pawb a bleidleisiodd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd am fynd heb refferendwm. Yr opsiwn diogel i’r rhai fyddai am aros yn yr UE fyddai i beidio â chynnal refferendwm, ond yn amlwg i rai, er ychydig bach iawn oedd y rhain, roedd cael y siawns i leisio’u barn yn bwysig.
Casgliad
Mae’n eithaf amlwg o ddarllen y ffigyrau bod darllenwyr Golwg360 o blaid aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Efallai bod hyn am resymau ariannol – mae Cymru wedi derbyn llawer o grantiau ar gyfer ailddatblygu er mwyn gwella’r economi. Beth bynnag y rheswm, mae’r canlyniad hynny’n glir.
Ond nid ydynt am weld refferendwm arall. Mae hyn yn ddiddorol oherwydd efallai y bydd yna refferendwm arall cyn hir yn dilyn awgrymiadau’r Comisiwn Silk – sut fydd darllenwyr Golwg360 yn teimlo am hynny tybed? Ond cwestiwn arall yw hynny.
O hyn i gyd, gallwn dybio bod darllenwyr Golwg360 yn poeni am ganlyniad refferendwm o’r fath, gan eu bod am aros yn rhan o’r UE ond yn poeni y bydd gweddill y Deyrnas Unedig am adael.