Leanne Wood - angen pwerau creu swyddi, meddai
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud fod Cymru angen pwerau creu swyddi i gynyddu incwm teuluoedd, gwella’r economi a helpu plant sydd mewn tlodi.

Daw’r galwad gan Leanne Wood AC wedi i ffigyrau newydd a ryddhawyd heddiw ddangos fod traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi.

Mae’r ffigyrau yn rhan o adroddiad Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y Deyrnas Unedig oedd yn edrych ar aelwydydd sy’n byw ar lai na’r incwm cyfartalog.

Dangosodd yr adroddiad bod 33% o blant Cymru yn byw mewn cartrefi gydag incwm o lai na 60% o incwm cyfartalog y Deyrnas Unedig ar ôl costau tai.

Yng Nghymru, mae hyn yn gynnydd o 2% ar ffigyrau llynedd sy’n dod a’r cyfanswm i ryw 200,000 – cyfystyr â 12,000 o blant ychwanegol mewn tlodi.

Llai na Llundain

Ar draws y Deyrnas Unedig, dim ond canol Llundain sydd â chanran uwch o blant mewn tlodi nag sydd gan Gymru.

Yn ychwanegol, dangosodd yr adroddiad bod gan cyplau gyda phlant sydd mewn tlodi incwm llai o £1,600, ar gyfartaledd, nac yn 2007/08. Mae hyn yn ostyngiad o 8%.

Diwedd ar dlodi

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: “Mae Plaid Cymru eisiau gweld diwedd ar dlodi plant yng Nghymru.

“Fodd bynnag, mae’n anodd iawn gwneud hyn os nad oes gan Lywodraeth Cymru fawr ddim rheolaeth dros ei economi ei hun, os nad oes ganddi bwerau i godi ei harian ei hun a dim llais ar nawdd cymdeithasol.

“Y bobl ar yr incwm isaf, y rhai gwaethaf eu byd, a menywod, sy’n dwyn baich trymaf yr argyfwng economaidd hwn. I drin tlodi plant, rhaid trin tlodi menywod a rhaid atal y diwygio i’r drefn les.”

Ymateb y Democratiaid Rhyddfrydol

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Peter Black o Democratiaid Rhyddfrydol Cymru bod y Democratiaid Rhyddfrydol fel rhan o’r gymblaid yn San Steffan yn cymryd camau i helpu’r toltaf o fewn y gymdeithas.

“Mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchu’r sefyllfa fyd-eang mae’n dangos yr effaith mae hyn yn ei gael ar bobl sy’n byw yng Nghymru.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol, fel rhan o’r glymblaid, yn cymryd camau i helpu’r tlotaf yn ein cymdeithas. Rydym yn torri trethi ar gyfer pobl cyffredin sydd mewn gwaith, gan weithio tuag at economi gryfach a chymdeithas decach.

“Bydd y Lwfans Treth Incwm yn cael ei godi i £10,000 yn Ebrill 2014, fydd yn golygu toriad treth o £700 bob blwyddyn i dros 1.1 miliwn o bobol yng Nghymru.

“Erbyn Ebrill 2014 bydd 106,000 o weithwyr incwm isel yng Nghymru ddim yn gorfod talu treth o gwbwl.”