Mae pwyllgor seneddol dylanwadol wedi galw ar Gyllid a Thollau EM i wneud ymchwiliad llawn i mewn i Google ar ôl dargafnod bod y cwmni yn defnyddio trefniadau treth “ddyfeisgar iawn”.
Mewn adroddiad deifiol, diystyrodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ Cyffredin honiadau Google bod llawer o’i werthiant yn y DU yn digwydd yn Iwerddon lle mae nhw’n talu treth isel.
Dywedodd cadeirydd y pwylgor, Margaret Hodge AS, fod y cwmni yn ddigwylydd a dywedodd mai’r unig ffordd i Google adennill ei enw da oedd wrth dalu cyfran deg o dreth yn y gwledydd lle mae’n ennill elw enfawr.
“Anhygoel”
Ond mae’r adroddiad hefyd yn feirniadol iawn o awdurdodau treth a dywedodd ei bod hi’n “anhygoel” nad yw Cyllid a Thollau EM yn herio Google dros y trefniadau.
Mae’r pwyllgor yn annog Llywodraeth y DU i roi arweiniad rhyngwladol ar foderneiddio fframweithiau treth sy’n hen ffasiwn ac roedd yr adroddiad yn canmol y Prif Weinidog David Cameron am roi osgoi treth wrth wraidd ei agenda ar gyfer uwchgynhadledd y G8 yng Ngogledd Iwerddon wythnos nesaf.
Fe wnaeth Google gynhyrchu tua $18 biliwn (£11.5 biliwn) mewn refeniw o’r DU rhwng 2006 a 2011 ond darganfyddodd yr adroddiad bod y cwmni ond wedi talu £16 miliwn (£10 miliwn) mewn treth corfforaethol.
Ymateb y Trysorlys
Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: “Mae’r Llywodraeth yma wedi ei hymrwymo i greu’r system dreth gorfforaethol fwyaf cystadleuol yn y G20, ond mae hyn yn mynd law yn llaw â’n galwad am safonau rhyngwladol cryf i sicrhau bod cwmnïau byd-eang, fel pawb arall, yn talu’r trethi sy’n ddyledus.
“Mae y Deyrnas Unedig, ynghyd â’r Almaen a Ffrainc, wedi bod yn arwain ymdrechion drwy’r OECD i foderneiddio’r rheolau treth rhyngwladol, ac rydym ni wedi rhoi treth a thryloywder wrth galon agenda y G8 y byddwn yn ei gadeirio’r wythnos nesaf.”
Google yn croesawu’r alwad
Dywedodd llefarydd ar ran Google: “Fel yr ydym wedi dweud erioed, mae Google yn cydymffurfio â holl reolau treth y DU, a’r gwleidyddion sy’n gwneud y rheolau hynny.
“Mae’n amlwg o’r adroddiad hwn fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am weld cwmnïau rhyngwladol yn talu mwy o dreth yn lle mae eu cwsmeriaid ond nid dyna sut mae’r rheolau yn gweithredu heddiw.
“Rydym yn croesawu’r alwad i wneud y system gyfredol yn symlach ac yn fwy tryloyw. “