Llys y Goron Lerpwl
Mae’r cyn-actor Coronation Street, Andrew Lancel wedi’i gael yn ddieuog o bedwar cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen 15 oed.

Yn Llys y Goron Lerpwl, honnwyd bod y troseddau wedi digwydd yn 1994 pan oedd Lancel, oedd yn chwarae rhan Frank Foster yn yr opera sebon, yn gweithio gyda chwmni theatr.

Roedd y bachgen, oedd yn 15 oed ar y pryd, yn aelod o’r cwmni.

Cymerodd hi 29 o funudau i’r rheithgor ganfod Lancel – oedd wedi ymddangos o dan ei enw go iawn, Andrew Watkinson – yn ddieuog o’r holl gyhuddiadau.

Cafodd Lancel, sy’n byw yn Lerpwl, ei gyhuddo fis Tachwedd diwethaf.