Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi rhybuddio y gallai cyllideb Cymru gael ei thorri gan Lywodraeth Prydain.
Fe fydd arolwg ar wariant yn cael ei gynnal gan Lywodraeth Prydain ar Fehefin 26, ac mae yna bryderon y gallai’r Canghellor George Osborne benderfynu torri £55 miliwn o gyllideb Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cynnal nifer o gyfarfodydd i ymateb i’r pryderon, meddai Carwyn Jones.
Yn ystod ei gynhadledd fisol i’r wasg heddiw, dywedodd Carwyn Jones ei fod yn rhoi blaenoriaeth i iechyd, addysg, cynnal budd-daliadau unffurf, swyddi a’r economi ond fe allai pob maes arall wynebu toriadau.
Dywedodd Carwyn Jones heddiw mai ei neges yw “digon yw digon” a’i fod yn galw ar Lywodraeth Prydain i ystyried “yn ofalus iawn” unrhyw benderfyniadau maen nhw’n ei wneud yn ystod y pythefnos nesaf gan ddweud y gallai gael dylanwad mawr ar bobl Cymru.
Byrddau iechyd
Yn ystod y gynhadledd, cyhoeddodd ei fwriad i gyflwyno mesur a fyddai’n dileu’r angen i fyrddau iechyd wirio’u cyfrifon er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gytbwys ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw cyflwyno cynllun tair blynedd tebyg i gynlluniau presennol awdurdodau lleol er mwyn eu caniatau i gynllunio ar gyfer y tymor hir.