Adeilad GCHQ yn Cheltenham
Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague wedi mynnu nad yw’r asiantaeth ysbïo GCHQ wedi camddefnyddio rhaglen ddadleuol gan lywodraeth America i fonitro’r rhyngrwyd.

Mae’n gwrthod cadarnhau na gwadu manylion am gysylltiadau GCHQ â chynllun ysbïo Prism, ond mae’n mynnu nad yw’r cynllun wedi cael ei ddefnyddio er mwyn osgoi’r gyfraith.

Fe fydd yn gwneud datganiad ar y mater yn y Senedd yfory.

“Fel rhywun sy’n adnabod GCHQ yn dda … mae’r syniad fod pobl yno’n cynllwynio gydag asiantaeth arall mewn gwlad arall er mwyn osgoi cyfraith Prydain yn hurt,” meddai.

“Os ydych chi’n ddinesydd o’r wlad yma sy’n cadw at y gyfraith, does gennych chi ddim byd i’w ofni am y wladwriaeth Brydeinig neu asiantaethau cudd yn gwrando ar gynnwys eich galwadau ffôn na dim byd felly.”

Ychwanegodd na allai ddatgelu sut mae GCHQ na’r gwasanaethau diogelwch yn gweithio gan y byddai hynny’n helpu rhwydweithiau terfysgol, rhwydweithiau troseddwyr ac asiantaethau cudd-wybodaeth tramor.