Harry Patch, milwr ola'r Rhyfel Byd Cyntaf a fu farw ddwy flynedd yn ôl (Jim Ross CCA 2.0)
Mae’r llywodraeth yn annog capeli ac eglwysi ledled Prydain i gynnal gwylnosau golau cannwyll y flwyddyn nesaf i nodi canmlwyddiant cychwyn y Rhyfel Mawr.

Mae gwylnos o’r fath eisoes wedi cael ei threfnu yn Abaty Westminster ar Awst 4, 2014, gyda’r gannwyll olaf yn cael ei diffodd am 11pm – gan mlynedd union i’r funud y cafodd y rhyfel ei gyhoeddi.

Gobaith y llywodraeth yw cael digwyddiadau lleol ledled Prydain fel y bydd miloedd o ganhwyllau’n cael eu diffodd am 11pm.

Mae’r syniad o wylnos yn deillio o sylw sy’n cael ei briodoli i ysgrifennydd tramor Prydain ar y pryd, yr Is-iarll Edward Grey, ar drothwy’r rhyfel:

“Mae’r lampau’n cael eu diffodd ledled Ewrop, welwn ni mohonyn nhw’n goleuo eto yn ein hoes.”

Cafodd dros 16 miliwn eu lladd yn y gyflafan a barhaodd am dros bedair blynedd tan ddydd y cadoediad ar 11 Tachwedd 1918.