Mae gwyddonwyr wedi canfod patrwm genynnau sy’n debyg ymhlith pobol sy’n dioddef o awtistiaeth.

Dywedodd ymchwilwyr o Gyngor Ymchwil Feddygol Prifysgol Rhydychen y gallai’r wybodaeth newydd eu helpu i ddeall y cyswllt rhwng genynnau ac awtistiaeth.

Ar hyn o bryd, dim ond un o bob pump o achosion sy’n gallu cael eu mesur yn ôl genynnau.

Gwnaed yr ymchwil ar 181 o bobol a chanddyn nhw awtistiaeth, ac roedd gan rai ohonyn nhw gopïau union o’r un genynnau neu lai o enynnau na phobol heb awtistiaeth.

Darganfyddodd yr ymchwilwyr fod rhai o’r genynnau mewn cleifion a chanddyn nhw awtistiaeth yn cydweithio fel rhan o rwydwaith fiolegol wrth drosglwyddo negeseuon i’r ymennydd.

1% efo awtistiaeth

Mae gan ryw 1% o’r boblogaeth awtistiaeth ac mae’n effeithio ar allu pobol i gyfathrebu a chymdeithasu.

Dywedodd awdur yr astudiaeth, y Dr Caleb Webber: “Meddyliwch am bibell sy’n cario dŵr.

“Mewn rhai mannau ar draws y bibell, mae genynnau sy’n gweithredu fel tapiau i adael rhagor o ddŵr i mewn i’r bibell.

“Mewn mannau eraill, mae’r genynnau’n gweithredu fel tyllau i adael ychydig o’r dŵr allan.

“Fe wnaethon ni ddarganfod gydag unigolion a chanddyn nhw awtistiaeth fod y cellwyriadau yn yr holl enynnau hyn yn gweithredu yn yr un ffordd er mwyn effeithio ar lif dŵr.

“Mae hyn yn dangos bod y genynnau ‘tap’ wedi’u dyblygu mewn rhai unigolion a chanddyn nhw awtistiaeth, sy’n cynyddu’r llif i mewn i’r bibell, tra bod y genynnau ‘twll’ mewn unigolion eraill a chanddyn nhw awtistiaeth yn cael eu dileu, sy’n lleihau faint o ddŵr sy’n gadael y bibell.”