Mae cyfres ddogfen deledu newydd yn mynd y tu ôl i’r llenni yn siop fwyd Iceland, wrth i’r cwmni ddelio â sgil-effeithiau’r sgandal cig ceffyl.

Fe dreuliodd y cynhyrchwyr flwyddyn yn ffilmio mewn siopau ac yn yr ystafell gyfarfod gyda Malcolm Walker, y dyn sefydlodd Iceland dros 40 mlynedd yn ôl.

Mae Malcolm Walker yn adnabyddus am ei steil rheoli ecsentrig iawn, sy’n cynnwys ymweld â siopau llwyddiannus gyda llond cês o arian parod, er mwyn gwobrwyo staff.

“Rwy’n caru pob un o’n cwstmeriaid, oherwydd nhw sy’n rhoi i mi bopeth sydd gen i,” meddai ar y rhaglen. “Maen nhw’n talu am fy nghar, fy nghartref, fy ngwyliau… popeth.”

Fe gafodd y gyfres o dair o raglenni ar gyfer BBC2 eu ffilmio yng nghanol y sgandal tros ddefnyddio cig ceffyl yn hytrach na chig eidion mewn bwydydd. Roedd rhai o fyrgers Iceland yn cynnwys DNA ceffyl.

Fe gwympodd gwerthiant byrgers a phrydau parod Iceland, wedi i’r stori dorri.