Mae Heddlu Scotland Yard wedi cadarnhau bod graffiti mudiad yr English Defence League wedi’i ddarganfod ar ganolfan Islamaidd aeth ar dân yng ngogledd Llundain fore heddiw.

Fe gynheuodd y tân yn ystod oriau mân y bore yng Nghanolfan Islamaidd Al-Rahma – sydd hefyd yn fosg – yn ardal Muswell Hill.

Mae rhan o’r adeilad wedi dymchwel yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 3.15 y bore yma, ac roedd 35 o ddiffoddwyr wrthi’n ceisio rheoli’r tân.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu, ond derbyniodd dynes sy’n byw yn ymyl y ganolfan driniaeth am effeithiau sioc.

Dyw’r awdurdodau ddim wedi cadarnhau bod y tân wedi’i gynnau’n fwriadol, ond mae uned wrth-derfysgaeth Heddlu Scotland Yard yn ymchwilio i’r digwyddiad.