Dijeridw traddodiadol, nid o wneuthuriad Ray Brook
Mae dyn sy’n byw ym Môn yn gwneud enw iddo’i hun fel un o gynhyrchwyr mwyaf dijeridŵs y byd.

Mae Ray Brook, 62, yn byw yn Rhosneigr ac mae o’n dweud ei fod wedi gwneud 25,000 o’r offeryn gwynt ers iddo’ wneud y cyntaf pan oedd yn byw yn Efrog Newydd yn ystod y 1970au.

Mae dijeridŵs traddodiadol yn cael eu gwneud o ganghennau’r goeden eucalyptus ond mae Ray Brook yn cael gwneud o fambŵ.

Mae’n honni bod y rhai bambŵ yn haws i’w chwarae ac yn creu gwell sŵn.

“Rwy’n teimlo fel y dyn sydd wedi gwerthu tywod i Arabiaid a glo i Newcastle,” meddai Ray Brook mewn cyfweliad ym mhapur y Daily Express.

“Ro’n i’n arfer eu gwerthu nhw mewn ffeiriau crefftau ond mae gwerthiant fy nghynnyrch ar-lein wedi lledaenu dros y byd.

“Mae’n anhygoel pan rydych chi’n meddwl fy mod yn byw yng Nghymru. Dw i ddim yn gwybod am unrhyw un arall sy’n gwneud dijeridŵs o gwmpas ffor’ hyn.”