Georgia Williams
Nid yw corff y ferch 17 mlwydd oed Georgia Williams wedi cael ei ddarganfod, er bod dyn 22 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o’i llofruddio.
Cafodd y dyn o Wellington, Sir Amwythig ei arestio’n wreiddiol yng Nglasgow ar amheuaeth o gipio Georgia. Mae bellach wedi cael ei ddychwelyd i Telford.
Dywedodd yr Arolygwr Nav Malik o Wasanaeth Heddlu Telford a Wrekin eu bod yn awyddus i ddarganfod symudiadau’r ferch, sydd heb gael ei gweld ers gadael ei chartref nos Sul, ar ôl dweud wrth ei rhieni ei bod yn ymweld â ffrindiau.
Roedd hi wedi mynd a’i ffon symudol gyda hi ond mae’n debyg nad oedd wedi ei ddefnyddio ar ol 8yh nos Sul.
Dywedodd: “Rydym yn hynod o awyddus i ddarganfod ble mae Georgia ac rwy’n annog y cyhoedd i gefnogi ein hymdrech wrth i ni geisio dod o hyd iddi.”
Mae’r heddlu’n awyddus i olrhain symudiadau fan Toyota Hiace 300 GS lliw arian. Mae’n ymddangos fod y dyn sydd wedi ei arestio gan yr heddlu â mynediad i’r cerbyd yma.
Credir bod y fan, sydd â’r rhif CV06 ASV, wedi teithio o Wellington amser cinio ddydd Llun gan fynd ymlaen i Groesoswallt, Y Rhyl, Caer a Kendal cyn cyrraedd Glasgow am hanner dydd ddydd Mawrth.
Ddoe roedd yr heddlu yn archwilio tŷ yn Wellington, lle mae dyn o’r enw Jamie Reynolds yn byw gyda’i rieni.
Mae oddeutu 50 o swyddogion heddlu yn gweithio ar yr achos ac mae swyddogion wedi bod yn archwilio coedwig a gwarchodfa natur Brown Moss rhyw 17 milltir tu allan i Wellington, lle mae pabell wedi ei chodi gan yr heddlu.