Mae’r gwrthbleidiau wedi beirniadu ystadegau a gafodd eu cyhoeddi heddiw, sy’n dangos bod adrannau damweiniau ac achosion brys wedi methu eu targedau unwaith eto.
Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod 95% o gleifion yn treulio llai na phedair awr yn yr adrannau wrth dderbyn triniaeth.
Mae’r ystadegau’n dangos mai 84.3% yn unig o gleifion gafodd eu gweld o fewn yr amser hwn ym mis Mawrth, ac 85.9% ym mis Ebrill.
Methodd yr adrannau â chyrraedd nod Llywodraeth Cymru o sicrhau nad yw 99% o gleifion yn treulio mwy nag wyth awr yn yr adrannau.
‘Gwarthus’
Dywedodd arweinydd y Dems Rhydd yng Nghymru, Kirsty Williams: “Mae’r ffigurau hyn yn warthus ac maen nhw ond yn tynnu sylw ymhellach at ba mor wael yw camreolaeth Llywodraeth Lafur Cymru o’n Gwasanaeth Iechyd ni.
“Tra nad yw targedau Llywodraeth Lafur Cymru eu hunain ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys erioed wedi cael eu cyrraedd, bydden ni’n disgwyl arwyddion o welliant sefydlog o leiaf.
“Yn drist iawn, nid dyna sydd wedi digwydd o bell ffordd.
“Mewn gwirionedd, mae’r ffigurau ar gyfer mis Mawrth yn waeth nag y maen nhw wedi bod ers dros flwyddyn.”
Ychwanegodd fod Cymru ymhell ar ei hôl hi o’i chymharu â gwledydd eraill Prydain.
“Mae gyda ni dargedau canser nad ydyn nhw wedi cael eu cyrraedd ers pum mlynedd, targedau adrannau damweiniau ac achosion brys nad ydyn nhw erioed wedi cael eu cyrraedd a’r amserau ymateb ambiwlansys gwaethaf o bell ffordd yn y DU – dyna waddol Llafur yng Nghymru.”
‘Ni ddylai unrhyw glaf orfod aros cyhyd’
Ychwanegodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar: “Dydy targedau Llywodraeth Lafur Cymru ar gyfer nifer y cleifion sy’n aros dros bedair neu wyth awr ddim wedi cael eu cyrraedd unwaith ers i Carwyn Jones ddod yn Brif Weinidog dair blynedd a hanner yn ôl.
“Mae’n amhosib gorbwysleisio’r straen sy’n cael ei hachosi i gleifion sy’n aros mewn adran ddamweiniau ac achosion brys am fwy nag wyth awr. Ni ddylai unrhyw glaf orfod aros cyhyd i gael ei weld gan glinigwr.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu arian ychwanegol i gynyddu capasiti cleifion mewnol er mwyn lleddfu’r broblem hon ar unwaith.”
Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.