Mark Bridger ar ei ffordd i'r carchar ar ol cael ei ddedfrydu
Mae Mark Bridger wedi cael ei garcharu am oes heddiw am lofruddio’r ferch 5 oed April Jones o Fachynlleth.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr Mr Ustus Griffith Williams y bydd yn rhaid iddo dreulio gweddill ei oes dan glo.
Disgrifiodd Bridger fel “celwyddgi patholegol a pedoffeil.”
Mae’r ddedfryd yn un anarferol gan fod y barnwr wedi pwysleisio na fydd Bridger fyth yn cael ei ryddhau o’r carchar.
Dim ond 31 o bobol eraill sydd wedi derbyn y fath ddedfryd yn y gorffennol gan gynnwys Ian Brady, Donald Neilson a Rose West.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug prynhawn ma, cafwyd Mark Bridger yn euog o gipio a llofruddio April Jones o Fachynlleth ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gael gwared a’i chorff.
Roedd Mark Bridger, 47, o Geinws ym Machynlleth wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.
‘Pedoffeil’
Safodd Bridger yn llonydd yn y doc wrth i’r barnwr gyhoeddi’r ddedfryd, ond siglodd ei ben wrth i’w ddiddordeb rhywiol mewn plant a cham-drin rhywiol gael ei grybwyll.
Dywedodd y barnwr: “Does dim amheuaeth yn fy meddwl i eich bod chi’n bedoffeil, sydd wedi meithrin ffantasïau rhywiol a morbid am ferched ifainc.
“Fe wnaethoch chi gipio April at ddibenion rhywiol ac yna’i llofruddio hi a chael gwared a’i chorff er mwyn cuddio tystiolaeth o’ch camdriniaeth rywiol.”
Cofleidiodd rhieni April a’i hanner-chwaer wrth i’r ddedfryd gael ei chyhoeddi, a chafodd Bridger ei dywys i’r celloedd.
Ymateb rhieni April
Mewn datganiad y tu allan i Lys y Goron Yr Wyddgrug, dywedodd Coral Jones: “Rydyn ni’n teimlo rhyddhad bod Mark Bridger heddiw wedi’i ganfod yn euog o lofruddio ein merch brydferth.
“Bydd April yn ein calonnau ni am byth ac rydyn ni wedi teimlo’r gefnogaeth syfrdanol rydyn ni wedi ei chael gan gymaint o bobol ledled y byd.
“Hoffwn i a Paul ddiolch i’r heddlu am eu cefnogaeth.
“Hefyd, hoffem ni ddiolch i’n teulu ac i gymuned Machynlleth. Heb eu cefnogaeth nhw, fydden ni ddim wedi gwybod sut i ddod drwyddi.”
Diolchodd hefyd i’r cyfryngau am “eu ffordd barchus o adrodd stori April”.
Bu pennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron, Ed Baltrami hefyd yn talu teyrnged i’r tystion yn yr achos, yn enwedig y ferch fach saith oed a ddywedodd ei bod hi wedi gweld April yn mynd i mewn i Land Rover Bridger.
Bydd rhaglen newyddion estynedig Newyddion Arbennig: April Jones yn cael ei darlledu am 9.35 heno ar S4C.