Coral a Paul Jones yn cyrraedd Llys y Goron yr Wyddgrug bore ma
Mae Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi clywed datganiad gan fam April Jones ar ôl i Mark Bridger gael ei ganfod yn euog o gipio a llofruddio’r ferch fach o Fachynlleth.
Dywedodd y byddai’n “byw gyda’r euogrwydd o adael iddi fynd allan i chwarae ar y stad y noson honno am weddill fy oes”.
Ychwanegodd nad oes ganddi eiriau “i ddisgrifio sut rydyn ni (teulu April) yn teimlo”.
Dywedodd Coral Jones nad yw hi’n gallu mynd i mewn i stafell wely April o hyd a’i bod hi’n dal i “reoli ein bywydau”.
Ychwanegodd nad oedd modd disgrifio’r boen mae hi’n teimlo ers i April ddiflanu.
Ond dywedodd ei bod hi wedi ceisio adfer normalrwydd adeg y Nadolig ers lles gweddill y teulu.
Dywedodd ei bod hi wedi rhoi rhubanau pinc y tu fewn i gardiau Nadolig.
April yn ‘rheoli ein bywydau ni’
“Gwnaeth April frwydro i ddod i mewn i’r byd, gwnaeth hi frwydro i aros yn y byd hwn ac mae e [Bridger] wedi ei chymryd hi, nid yn unig oddi arnom ni ond oddi wrth bawb oedd yn ei charu hi.”
Clywodd y llys bod April wedi’i geni’n gynnar, yn pwyso pedwar pwys a dwy owns, a’i bod hi wedi treulio pythefnos yn yr uned gofal dwys.
“Mae hi bob amser wedi bod yn ymladdwr, ac fe wnaethon ni ddarganfod yn ddiweddarach fod ganddi dwll yn ei chalon a murmur ar ei chalon.
“Pan oedd hi tua thair oed, fe wnaethon ni sylweddoli ei bod hi’n dod yn drwsgl, felly yn dilyn sawl ymweliad â’r doctoriaid, fe wnaethon nhw roi diagnosis yn y pen draw fod parlys yr ymennydd ar April i lawr ei hochr chwith o’i chlun i’w choes.
“Roedd yn rhaid i ni dylino ei choesau a’i chael hi i ystwytho gan y byddai hi mewn poen cyson gyda’i choesau.
“Yn anaml iawn y gwnaeth hi gwyno am y boen a byddai hi bob amser am fynd allan i chwarae gyda’i ffrindiau.
“Roedd April yn rheoli ein bywydau ni.
“Hi oedd y ieuengaf ac oherwydd ei hamryw anableddau, roedd yn rhaid i ni ddarparu rhyw fath o ofal iddi drwy’r amser.”
‘Ffrind annwyl i ni i gyd’ – teyrnged prifathrawes
Mae prifathrawes Ysgol Gynradd Machynlleth, Gwenfair Glyn wedi dweud bod yr ysgol, yn ystod y saith mis ers diflaniad April, wedi wynebu’r cyfnod mwyaf anodd yn ei hanes.
Dywedodd fod yr holl ddisgyblion a’r staff wedi teimlo marwolaeth April i’r byw.
Cafodd arddangosfa arbennig ei chreu gan ei ffrindiau yn yr ysgol yn y dyddiau’n dilyn ei diflaniad.
Cafodd rhubanau pinc eu gosod ger llyfr teyrngedau.
Dywedodd Gwenfair Glyn: “Mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn brofiad anodd a thrist i’r holl ddisgyblion, eu teuluoedd a staff yr ysgol.
“Roedd April yn ddisgybl prydferth a hapus.
“Roedd hi’n blentyn poblogaidd a dymunol oedd yn mynychu ffrwd Gymraeg Ysgol Gynradd Machynlleth, yn heulwen fach ac yn ffrind annwyl i ni gyd.
“Mae ei cholli hi wedi’i deimlo gan bawb oedd yn ei hadnabod hi yn yr ysgol.
“Ar ran yr ysgol gyfan, hoffwn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i Coral a Paul, eu plant a’r teulu oll am eu colled.”
Ychwanegodd y byddai’r ysgol nawr yn canolbwyntio ar les y disgyblion, a bod ganddyn nhw “atgofion annwyl iawn” o April.
“Byddwn ni’n parhau i gadw April yn ein meddyliau ac yn ein calonnau.”