Ty Mark Bridger yng Ngheinws
Mae rhieni April Jones yn credu na ddylai tŷ ei llofrudd, Mark Bridger gael sefyll.
Cartref y llofrudd, Mount Pleasant yng Ngheinws ger Machynlleth yw’r unig le lle mae gweddillion April Jones wedi’u canfod.
Yn ystod yr ymchwiliad i’w marwolaeth, cafwyd hyd i olion gwaed a’r hyn a gredir i fod yn ddarnau o asgwrn penglog plentyn yn yr ystafell fyw ac ystafell ymolchi Mark Bridger.
Nid yw Mark Bridger wedi datgelu beth yn union ddigwyddodd i April Jones yn ei gartref, ond dywedodd uwch swyddog yr ymchwiliad, yr Arolygwr Andy John fod y dystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod yr achos yn awgrymu fod April Jones wedi dioddef tynged ofnadwy. Aeth ymlaen i ddweud y bydd rhaid i drigolion Ceinws a Machynlleth drafod dyfodol cartref Mark Bridger.
Dywedodd: “Rwy’n ymwybodol mai barn y teulu, ar sail yr hyn a gredir digwyddodd yn y tŷ, yw na ddylai’r tŷ fodoli mwyach. Bydd angen trafod hyn, nawr fod yr achos ar ben”.
Yn ystod yr achos llys, clywodd y rheithgor bod Mark Bridger wedi bod yn glanhau ei gartref er mwyn dileu unrhyw dystiolaeth o bresenoldeb April yn y tŷ, wrth i gannoedd o wirfoddolwyr ymuno yn y chwilio am y ferch fach fis Hydref y llynedd.
Roedd y plismyn oedd wedi mynd i gartref Mark Bridger ar y diwrnod canlynol wedi dweud bod arogl cemegau glanhau cryf iawn yn y tŷ.
Symudodd Bridger i’r tŷ fis Awst diwethaf, rhyw pum wythnos cyn iddo gipio April Jones.
Mae’r tŷ wedi bod dan ofal Heddlu Dyfed Powys ers dechrau’r achos.
Nid yw perchennog y tŷ, Mark Ford, wedi gwneud sylw ar y mater, meddai’r heddlu.