Iain Duncan Smith
Mae’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith wedi addo brwydro yn erbyn gorchymyn gan y Comisiwn Ewropeaidd i hwyluso mynediad mewnfudwyr i fudd-daliadau.
Mae’r Comisiwn wedi cyfeirio’r DU i Lys Iawnderau Ewrop ynglŷn â’r prawf sy’n cael ei orfodi ar wladolion taleithiau Ewrop am yr hawl i breswylio yn y DU.
Credir bod y prawf yn wahaniaethol gan ei fod yn mynd tu hwnt i feini prawf cymhwyster safonol ar gyfer budd-daliadau. Yn ôl y Comisiwn Ewropeaidd mae hyn yn golygu bod y DU yn gwahaniaethu rhwng gwladolion o daleithiau’r Undeb Ewropeaidd.
Ond mae Iain Duncan Smith wedi dweud y bydd yn brwydro yn erbyn y gorchymyn “bob cam o’r ffordd” ac y byddai’n ceisio “cryfhau’r system fudd-daliadau er mwyn atal camddefnydd ohoni.”
Yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth, mae’r prawf ‘hawl i breswylio’ yn “declyn pwysig a theg” i sicrhau fod budd-daliadau yn cael eu talu i’r rheiny sydd â chaniatâd cyfreithiol i fyw yn y DU.
Ond dywedodd Adam Weiss, Cyfarwyddwr Cyfreithiol Canolfan Gyngor ar Hawliau Unigolion yn Ewrop fod y Deyrnas Unedig yn gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd trwy dalu budd-daliadau i ddinasyddion Prydeinig a Gwyddelig yn unig.