Mark Bridger
Mae Mark Bridger, 47, yn wynebu cyfnod o garchar am oes ar ôl cael ei ganfod yn euog o gipio a llofruddio April Jones, 5 oed o Fachynlleth, ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder trwy gael gwared ar ei chorff.

Clywodd y llys ei fod e’n ffantasïwr ac yn hoffi rheoli pobol, a’i fod e wedi ymosod yn rhywiol ar April Jones cyn ei llofruddio a chael gwared a’i chorff.

Ceisiodd Bridger greu darlun drwy bentyrru celwydd ar ôl celwydd wrth iddo geisio cuddio’r hyn roedd e wedi’i wneud.

Dywedodd ei fod e wedi taro’r ferch fach gyda’i Land Rover a’i fod e wedi mynd i banig yn ei feddwdod.

Ond roedd gan Bridger obsesiwn gyda lluniau anweddus o ferched ifanc a merched oedd wedi cael eu llofruddio.

Clywodd y llys ei fod e’n alcoholig oedd yn ddig ar ôl i’w berthynas ddod i ben.

Roedd ganddo hanes o anfon negeseuon i ferched ifanc lleol trwy Facebook, ac o chwilio am ddelweddau anweddus o gam-drin rhywiol ar y we.

‘Ffiaidd’

Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd, Andy John, arweinydd yr ymchwiliad: “Mae Mark Bridger yn unigolyn ffiaidd ac un sy’n ceisio dylanwadu ar bobl.

“Rwy’n credu ein bod ni wedi nodi’n glir yn ystod ein hymholiadau a’n hymchwiliad ei fod e’n rhywun sy’n creu ffantasi, sy’n hoffi bod mewn rheolaeth ac sy’n amlwg yn credu bod yr hyn mae’n ei ddweud yn fersiwn gywir o’r digwyddiadau.

“Mae’n rhywun na ellir ymddiried ynddo ac yn y pen draw, mae’n rhywun sydd wedi cyflawni’r drosedd fwyaf erchyll.”

Afon

Mae’r heddlu’n credu ei fod e wedi torri corff April i fyny cyn gwaredu arno yn y coed a’r afon ger ei gartref.

“Mae’n nabod daearyddiaeth yr ardal. Mae gyda ni’r afonydd gerllaw ac roedd yr afonydd yn llifo’n gyflym ac, ar y pryd y digwyddodd y drosedd, fe fydden nhw wedi bod yn uchel iawn.

“Allwn ni ddim dweud na aeth rhannau o’r corff i mewn i’r afon. Allwn ni ddim dweud na chafodd rhannau eu llosgi.

“Rwy’n credu bod April Jones yn digwydd bod yn y lle anghywir ar yr amser anghywir ac o ganlyniad, cafodd hi ei chipio.”

Yn dilyn arestio Bridger, clywodd yr heddlu am ei orffennol “arwrol”, a’i fod e wedi gwasanaethu’r fyddin ac wedi gweithio yn Angola a Belize.

Does dim tystiolaeth i gadarnhau’r hyn roedd e wedi’i honni, a doedd gan y fyddin ddim cofnod o’i amser gyda nhw.

Cafodd gwaed April ei ddarganfod yn ei gartref, ynghyd â chyllell i dorri esgyrn.

Clywodd y llys ei fod e’n arfer gweithio mewn lladd-dy a’i fod e’n gwybod sut i dorri esgyrn.

Tystiolaeth fforensig

Dywedodd yr erlyniad fod Bridger yn amlwg yn gwybod sut i drin tystiolaeth fforensig, yn dilyn tystiolaeth ei fod e wedi glanhau ei gartref.

Pan gafodd ei arestio, roedd arogl cryf o sylweddau glanhau yn ei gartref.

Ychwanegodd y Ditectif Uwch Arolygydd, Andy John: “Ar ôl cyflawni’r drosedd fwyaf erchyll, mae e wedyn wedi difetha tystiolaeth hyd eithaf ei allu.

“Mae e wedi trio cuddio’i ran ynddi ac wedi ceisio peidio cael ei ganfod.”

Honnodd yr heddlu nad oedd e wedi mynd i banig, fel yr oedd e wedi’i ddweud yn ystod yr achos.

Lluniau anweddus

Gwelodd y rheithgor gyfres o luniau anweddus a gafodd eu darganfod ar gyfrifiadur Bridger, gan gynnwys merched ifanc beichiog oedd wedi cael eu treisio a’u llofruddio.

Roedd Bridger wedi honni bod y casgliad o luniau wedi’u cadw er mwyn iddo allu cwyno wrth y cwmni oedd wedi eu llwytho nhw i’r we.

Ond roedd tystiolaeth ei fod e wedi chwilio am “ferched ifanc noeth 5 oed”, “Merch Brydeinig wedi’i llofruddio yn Ffrainc”, “merched deg oed noeth” a chyfres o luniau anweddus eraill.

Ceisiodd ddweud ei fod e’n ymchwilio i ddatblygiadau corfforol merched er mwyn deall sefyllfa ei ferch ei hun.

Wrth glywed yr honiadau hyn, roedd aelodau’r rheithgor yn ysgwyd eu pennau.

Gofynnodd y rheithgor wrth weld y lluniau fod cyfrifiadur Bridger yn cael ei ddiffodd fel nad oedd e’n gallu gweld y lluniau eto.

Roedd Bridger wedi crio yn gyson trwy gydol yr achos wrth glywed yr hyn oedd wedi digwydd i April.

Roedd e’n llefain fwyaf pan oedd tystiolaeth yn cefnogi ei fersiwn o’r digwyddiadau.

Ymddangosodd yn hyderus ar brydiau, gan geisio osgoi cwestiynau oedd yn profi ei fod e’n euog.

Mae disgwyl i Bridger gael ei ddedfrydu’n ddiweddarach heddiw