April Jones
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug, mae Mark Bridger wedi ei gael yn euog o gipio a llofruddio April Jones o Fachynlleth ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gael gwared a’i chorff.

Roedd Mark Bridger, 47, o Geinws ym Machynlleth wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Fe gyhoeddodd y rheithgor o naw dynes a thri dyn reithfarn unfrydol toc wedi hanner dydd ar ol bod yn ystyried eu dyfarniad am bedair awr a 6 munud.

Pan gafodd y ddedfryd ei chyhoeddi roedd Bridger wedi cau ei lygaid.

Roedd rhieni April, Coral a Paul Jones, wedi bod yn gwylio’r datblygiadau o’r oriel gyhoeddus. Roedd mam April yn edrych yn emosiynol ac yn ddagreuol pan gafodd y ddedfryd ei chyhoeddi.

Cefndir

Fe ddiflanodd y ferch 5 oed tra’n chwarae ger ei chartref ar 1 Hydref y llynedd. Er gwaethaf un o’r ymdrechion mwyaf gan yr heddlu yn y DU i ddod o hyd iddi, nid yw ei chorff erioed wedi cael ei ddarganfod.

Roedd Bridger wedi honni ei fod wedi ei tharo’n ddamweiniol gyda’i gar Land Rover ond nad oedd yn cofio beth wnaeth gyda’i chorff am ei fod wedi meddwi ac mewn panig.

Ond roedd tystiolaeth merch 7 oed, un o ffrindiau April, yn allweddol i’r achos. Dywedodd ei bod wedi gweld April yn mynd i mewn i gar Bridger “gyda gwen ar ei hwyneb”.  Roedd Bridger wedi honni bod y ferch yn dweud celwydd neu wedi cael ei dylanwadu gan eraill.

Daethpwyd o hyd i olion gwaed ac olion o esgyrn dynol yn ei gartref yng Ngheinws.

Gellir datgleu bod Bridger wedi cyfaddef wrth gaplan yn y carchar ei fod wedi cael gwared a chorff April yn Afon Ddyfi ym Machynlleth.

Mae’r heddlu wedi dweud y byddan nhw’n ail-ddechau chwilio am ei chorff os oes gwybodaeth newydd yn dod i law gan Mark Bridger.


Mark Bridger
Carchar am oes

Mae Bridger nawr yn wynebu cyfnod o garchar am oes. Dywedodd y barnwr Mr Ustus Griffith Williams mai dim ond un dedfryd sydd mewn achos o lofruddiaeth fel hyn, a carchar am oes yw’r ddedfryd honno. Fe fydd Bridger yn cael ei ddedfrydu tua 2yh prynhawn ma.

Mae disgwyl i Paul a Coral Jones ddarllen datganiad tu allan i’r llys ar ol hynny.