Mae dyn 20 oed wedi marw yn dilyn damwain beic cwad yng Nghaerdydd.

Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion yn dilyn y ddamwain ar Ffordd Pen y Wain toc wedi 3.30yh bnawn Mercher. Mae’n debyg bod y beic pedair olwyn wedi taro bolard,  ond nid yw’r heddlu’n credu bod unrhyw gerbyd arall yn gysylltiedig â’r digwyddiad.

Cafodd  y dyn ei gludo  i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd lle bu farw.

Roedd y dyn yn gyrru beic pedair olwyn Kawasaki gwyrdd pan ddigwyddodd y ddamwain ger cyffordd Ffordd Pen y Wain a Stryd Morlais, yn Cathays.

Cafodd  y ffordd ei chau am oddeutu tair awr tra bod yr heddlu yn ymchwilio i’r digwyddiad.

Mae’r crwner wedi ei hysbysu.

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y ddamwain, neu oedd wedi ceisio helpu’r gyrrwr neu a welodd y beic cwad cyn y digwyddiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth  gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.