Mae o leiaf 13 o bobol wedi cael eu lladd yn y cyrchoedd bomio diweddaraf yn Irac.
Cafodd pedwar o bobol eu lladd ar ôl i fom car ffrwydro yn ardal Binouq.
Bu farw tri arall ar ôl ffrwydrad mewn marchnad sy’n gwerthu cydrannau ceir yn Baghdad.
Yn y trydydd ymosodiad, cafodd tri eu lladd yn Karradah ar ôl i fom ffrwydro ar ymyl y ffordd wrth i’r heddlu fynd o gwmpas eu gwaith.
Yn ninas Mosul, cafodd tri o bobol eu lladd gan hunan-fomiwr mewn ardal oedd yn cael ei rheoli gan yr heddlu.