Eryri
Mae dyn wedi dioddef anafiadau difrifol ar ôl disgyn ar fynydd yn Eryri bnawn ddoe.
Roedd y dyn yn cerdded gyda’i gi ar Garnedd y Ffiliast pan ddisgynnodd.
Galwyd Tîm Achub Dyffryn Ogwen am 3.30 bnawn Mercher ond erbyn iddyn nhw gyrraedd roedd hofrennydd chwilio ac achub yr Awyrlu o Fali, Ynys Mon wedi cyrraedd y dyn.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd Bangor, lle mae’n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.
Dywedodd Cadeirydd Tîm Achub Dyffryn Ogwen, Chris Lloyd: “Mae’n ymddangos mai cerddwr ar ei ben ei hun oedd y dyn, allan gyda’i gi.
“Nid yw’n ardal boblogaidd iawn ac mae’n gymharol anghysbell, uwchben chwarel y Penrhyn. Mae’n debyg fod cyflwr y tir dan draed yn yr ardal yma yn anffafriol.”
Yn ôl Chris Lloyd, mae’r tîm achub yn bwriadu parhau i chwilio am y ci heddiw.