Blodau er cof am Lee Rigby y tu allan i farics Woolwich (llun PA)
Mae plismyn arfog wedi arestio dyn arall y prynhawn yma mewn cysylltiad â llofruddiaeth y milwr Lee Rigby.

Hwn yw’r pumed dyn i gael ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio’r drymiwr 25 oed yn Woolwich ddydd Mercher.

Meddai llefarydd ar ran heddlu Llundain:

“Am 2.35pm heddiw cafodd dyn 22 oed ei arestio gan swyddogion o’r uned gwrth-derfysgaeth heddlu Llundain sy’n ymchwilio i lofruddiaeth Lee Rigby.

“Aed ag ef i orsaf heddlu yn ne Llundain lle mae’n dal yn y ddalfa.”

Teulu’n gosod blodau

Ychydig oriau ynghynt fe fu aelodau o deulu Lee Rigby yn ymweld â’r fan lle cafodd ei ladd. Fe wnaeth ei weddw Rebecca, ei fam Lyn a’i lysdad Ian osod blodau ger Barics Woolwich lle’r oedd yn gwasanaethu gyda Chatrawd Brenhinol y Ffiwsilwyr.

Gan rybuddio y gallai fod miloedd o bobl mewn perygl o gael eu dylanwadu i fod yn derfysgwyr, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May fod y Llywodraeth yn edrych ar ffyrdd o dynhau’r gyfraith yn erbyn grwpiau eithafol.

Mae naw o bobl i gyd wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth Lee Rigby, gan gynnwys Michael Adebolajo, 28 oed a Michael Oluwatobi Adebowale, 22 oed, sy’n cael ei dal ar amheuaeth o lofruddio. Mae’r ddau’n dal yn yr ysbyty ar ôl cael eu saethu gan yr heddlu.

Mae tri dyn arall, 28, 24 a 21 oed yn dal yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio ddoe ar amheuaeth o gynllwynio llofruddio. Mae dyn 29 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth a dwy ddynes 29 a 31 oed wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad. Roedd y tri hyn hefyd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.

Mae heddlu gwrth-derfysgaeth Kenya wedi cadarnhau bod Adebolajo gael ei arestio yn y wlad gerllaw’r ffin â Somalia, lle mae’r grŵp terfysgol al-Shabab ar waith. Roedd wedi cael ei arestio yn 2010 gyda phum dyn arall, gan eu bod yn cael eu hamau o baratoi i hyfforddi ac ymladd gyda’r grŵp. Roedd Adebolajo wedi cael ei ddiarddel o’r wlad yn ddiweddarach.