Lionel Shriver yn arwyddo copïau o'i nofel newydd ddoe
Mae gan Brydain broblem go agos i’r Unol Daleithiau bellach o ran gordewdra, yn ôl y nofelydd enwog Lionel Shriver wrth siarad yng Ngŵyl y Gelli’r penwythnos yma.
“Rydych chi’n gwybod bod yr ystadegau yn dangos eich bod ychydig y tu ôl i’r Unol Daleithiau o ran ennill pwysau,” meddai. “Mae e bron a bod yr un faint o broblem yma ag y mae yn yr UDA.”
Daeth hi’n enwog tu hwnt ar ôl cyhoeddi ei nofel We Need to Talk About Kevin, a gafodd ei throsi’n ffilm rai blynyddoedd yn ôl. Roedd hi yn y Gelli i sôn am ei nofel newydd Big Brother – lle mae’r prif gymeriad, Pandora, yn gorfod dygymod â phroblem gordewdra llethol ei brawd, Eddison.
Siaradodd yn ddidwyll am y ffaith ei bod wedi colli ei brawd ei hun o ganlyniad i ordewdra yn 2009.
“Doeddwn i ddim yn gwybod sut i’w helpu,” meddai’r nofelydd. “Mae’r llyfr yma yn ceisio gwneud rhywbeth da allan o rywbeth gwael a ddigwyddod i mi.”
Arferion bwyta
Mae wedi cael llawer o sgriwtini yn y wasg am sgrifennu Big Brother – a phapur y Daily Mail yn honni ei bod wedi ei sgrifennu am ei bod yn teimlo’n euog am farwolaeth ei brawd. “Dw i ddim yn teimlo yn euog,” meddai. “Dw i ddim ar fai am ei arferion bwyta.”
Gwaethygodd iechyd ei brawd pan oedd ei gyrfa hi, y chwaer iau, yn codi i’r entrychion, tua 2005, ond fe fuodd yn gefnogol a charedig iawn iddi – petai’r esgid ar y droed arall, meddai, wyddai hi ddim a fyddai hi wedi bod mor anhunanol.
Dyw hi ddim yn galw am ymyrraeth gan y Llywodraeth ar y mater. “Dw i ddim eisiau i’r Llywodraeth gamu i mewn a chyflwyno trethi ar dewdra, fel bod pecyn o fenyn yn £20. Dylen ni i gyd gefnogi ein gilydd os ydyn ni am golli pwysau.
“Mae beidio ‘bwydydd mawr’ hefyd yn ddibwrpas. Peidiwch â phrynu’r Doritos – does dim ots wedyn beth maen nhw’n ei roi ynddo fe.”
Dywedodd nad oedd wedi mwynhau pan fyddai’r wasg yn gorfanylu ar ei bywyd personol, ond ei bod hi yn mwynhau rhai agweddau ar enwogrwydd.
“Dw i’n mwynhau’r cyfle i drafod gydag uniogolion sydd wedi darllen fy llyfr,” meddai. “Mae’r ochr arall ohono yn ddiwerth hollol. Dw i’n dal i allu cerdded i lawr y stryd a does neb yn sylwi arna i. Dw i ddim yn gwybod sut y byddai unrhyw un yn dymuno byw fel arall.”
Ymhlith y dorf brynhawn Sadwrn roedd cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan.