Y torfeydd yn mwynhau'r tywydd braf yng Ngwyl y Gelli brynhawn ddoe
Mae rhywbeth wedi newid yn yr ŵyl eleni. Roedd hi’n teimlo yn llawnach na’r arfer. Ddydd Sadwrn, roedd yr haul yn tywynnu ar y maes ar gyrion tref y Gelli a’r pebyll yn annioddefol o boeth ar brydiau. Ai’r tywydd braf oedd yn gyfrifol am y tyrfeydd?

Dw i ddim yn siwr. Maen nhw wedi symud pethau rownd rywfaint – nid yw’r llecyn glas lle mae pobol yn gorweddian reit o flaen y fynedfa mwyach, ond draw yn fwy i’r chwith, gyda phabell Tapas Espana newydd a chorneli coffi newydd o’i gwmpas. Mae fel petai yn llai rywsut, gyda rhagor o lecynnau a chorneli bach i blant segura neu ddarllen ar fîn-bags gwyrdd. Mae’r lle yn bertach, ond roedd e’n teimlo yn brysurach – a’r newid rownd sy’n gyfrifol am hynny am wn i.

Ac mae plant yn darllen yn y Gelli. Roedd yna fachgen tua 7 oed yn eistedd reit y tu allan i’r toiledau yn yr haul yn darllen nofel, gyda’i docyn gwyn yn ddalen yn symud i lawr y llinellau.

Yr un dorf – ddosbarth canol Seisnig gan fwyaf – sydd yma o hyd. Mae yna heidiau o fois Mumford & Sons-aidd ifanc gyda’u siacedi brethyn gwirion; merched ifanc yn eu fforgiau haf a’u welis a la Kate Moss; dynion talsyth, mawr yn gwisgo sanau melyn a loafers piws; menywod canol oed mewn teits pinc llachar. A Guto Harri yn eu canol, mewn siaced ddu suede.

Ond teimlaf eleni bod yna fwy o blant, fel bod yr ŵyl wedi sylweddoli bod rhaid paratoi ar gyfer y y thirtysomethings a’r fortysomethings sy’n heidio i’r ŵyl gyda’u babanod a’u plantos. Mae pobol yn cael plant yn hŷn; ond mae’r bobol yna yn dal eisiau mynd i wrando ar Germaine Greer neu George Monbiot yn traethu. Mae yna ragor o lecynnau syml a deniadol ar gyfer plant eleni, i wneud y profiad yn haws i’r rhieni. Fel yr awgrymodd Bethan Mair yn Golwg wrth ymateb i Dasglu Leighton Andrews ar Ein Hoff Brifwyl yn ddiweddar, mae eisiau i’r Eisteddfod Genedlaethol sylweddoli hyn hefyd.

Mae yna un babell â’i hochrau’n agored yn y Gelli a’i llond hi o fêls gwair, a phlant yn neidio lan a lawr yn chwarae dwli arnyn nhw. Bêls! Mae digon o rheiny yng Nghymru i lenwi pafiliwn.

O ran y siaradwyr – mae’r ŵyl yn dal i roi pwyslais ar faterion gwyrdd, amgylcheddol, ar ynni adnewyddol a byd natur a gwyddoniaeth. Heddiw, ddydd Sadwrn, fe fuodd Emyr Roberts, pennaeth newydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn sgwrsio am y corff newydd; Carwyn Jones yn trafod y Ddeddf Gynaladwyedd; a ddydd Llun fe fydd Alun Davies yn son am her i amaethwyr Cymru.

A digrif oedd clywed bod pobol wedi camgymryd Alun Davies, Gweinidog Amaeth Cymru am Alan Davies, yr actor a’r dyn teli, a phob un tocyn wedi ei werthu yn gynnar. Ddim yn ddrwg i gyd felly.

Roedd y babell fawr o dan ei sang yn gwrando ar yr hanesydd Anne Applebaum brynhawn Sadwrn yn son am ei llyfr, Iron Curtain: The Crushing of Eastern Europe 1944 – 1956. Americanes sydd yn briod â Gweinidog Tramor Gwlad Pwyl ac a oedd yn ohebydd yng ngorllewin Ewrop yn 1989. Roedd hi’n siarad fel melin bupur a’r cannoedd yn gwrando’n astud arni.

Drueni mai yn y babell fach – y Starlight Stage – roedd yr Athro Tony Brown o brifysgol Bangor yn traddodi ei ddarlith ar gasgliad newydd o waith RS Thomas, The Uncollected Poems (Bloodaxe), y mae wedi’i olygu ar y cyd â’r darlithydd Cymraeg, Jason Walford Davies. Roedd y ddarlith yn wibdaith difyr a theimladwy trwy fywyd a datblygiad gyrfa farddol RS – ac angerdd y darlithydd at y bardd-bregethwr yn amlwg. Dywedodd Tony Brown wrtha i wedi’r ddarlith eu bod yn lwcus o gael “eu troed i mewn drwy’r drws” yng ngwyl y Gelli, a bod Llenyddiaeth Cymru wedi bod o gymorth o ran hynny. Ymddengys nad yw’r literati Saesneg yn dal ddim yn llwyr werthfawrogi mawredd RS Thomas, er bod y diddordeb o dramor yn tyfu bob dydd, yn ôl yr academydd. Byddai’n werth i bawb geisio mynd i weld yr arddangosfa yng Nghanolfan Astudiaeth RS Thomas ym mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd.

Yn ôl i’r Gelli ddydd Sul – ac edrych ymlaen at wrando ar y seren ffilm o’r 60au,Terence Stamp. Eisiau gwybod beth yw ei ymateb i’r ffaith eu bod nhw’n ailwneud Far From the Madding Crowd, yn seiliedig ar nofel enwog Thomas Hardy, eto. Roedd yn actio yn y ffilm wreiddiol gan John Schlesinger gyda Julie Christie ac Alan Bates.