Llun cyfoes o Richard III
Fe fydd gan arbenigwyr barddoniaeth Gymraeg ddiddordeb arbennig wrth i fersiwn o ben un o frenhinoedd Lloegr gael ei arddangos am y tro cynta’.
Fe fydd model o wyneb y Brenin Richard III yn cael ei arddangos yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerlŷr cyn mynd ar daith o amgylch gwledydd Prydain.
Ond darn o farddoniaeth Gymraeg sy’n egluro beth ddigwyddodd i’r pen gwreiddiol pan gafodd y brenin ei ladd ym Mrwydr Bosworth yn 1485.
Torri cefn ei ben
Yn ôl ymchwilwyr, mae’r gerdd yn awgrymu mai’r dyn a gipiodd y goron oddi ar Richard, y Cymro Harri VII, oedd wedi ei ladd ac wedyn wedi torri cefn ei ben.
Yn y rhifyn diweddara’ o’r cylchgrawn Barddas, mae Dafydd Johnston, Pennaeth y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, yn dweud fod cywydd gan y bardd Guto’r Glyn yn rhoi goleuni pwysig ar y digwyddiadau.
Eleni y daethpwyd o hyd i sgerbwd Richard III dan faes parcio yng nghanol Caerlŷr ac roedd ôl clir fod cefn y penglog wedi ei dorri i ffwrdd yn llwyr.
‘Harri wnaeth’
“Mae’n berffaith bosibl mai Harri ei hun a’i gwnaeth i amlygu ei oruchafiaeth dros ei elyn,” meddai Dafydd Johnston yn yr erthygl.
“Mae gweld yr anafiadau ar sgerbwd Rhisiart yn atgoffa dyn mor giaidd oedd brwydrau’r Oesoedd Canol.”
Mae pen Richard III wedi ei ail-greu gan dîm celf fforensig o Brifysgol Dundee gan ddefnyddio techneg argraffu tri dimensiwn.