Mae un o ddioddefwyr cylch o bedoffiliaid yn Rhydychen wedi cyhuddo’r cyngor sir o ddweud celwydd am y gefnogaeth gafodd ei chynnig iddi hi a’i theulu.
Daw’r cyhuddiad ar ôl i saith dyn eu cael yn euog yn yr Old Bailey o gyfres o droseddau, gan gynnwys cynllwynio i dreisio a phuteindra, dros gyfnod o wyth mlynedd yn ninas Rhydychen.
Mae’r heddlu a gweithwyr cymdeithasol wedi ymddiheuro wrth y dioddefwyr am eu methiant i warchod merched ifainc a gafodd eu cipio oddi ar y strydoedd neu o gartrefi gofal a’u treisio neu eu gwerthu fel puteiniaid.
Cafwyd Akhtar Dogar, 32, Anjum Dogar, 31, Mohammed Karrar, 38, Bassam Karrar, 33, Kamar Jamil, 27, Assad Hussain, 32, a Zeeshan Ahmed, 27 yn euog ddoe.
Mae’r ferch, na ellir cyhoeddi ei henw, wedi dweud bod ei mam wedi erfyn ar y gwasanaethau cymdeithasol i’w helpu yn 2004 ond nad oedd yr asiantaethau wedi cymryd sylw.
Dwy flynedd yn ddiweddarach fe gytunodd y cyngor i’w rhoi mewn cartref gofal dros dro ond erbyn hynny roedd hi wedi dod dan reolaeth y cylch o bedoffiliaid oedd yn rhoi cyffuriau iddi.
Dywedodd y ferch mewn cyfweliad gyda phapur The Guardian bod honiadau’r cyngor eu bod wedi cynnig cymorth iddi hi a’i theulu yn “gelwydd llwyr”.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor wrth The Guardian eu bod yn ymddiheuro na chafodd y gamdriniaeth ei atal yn gynt. Mae’r cyngor yn bwriadu cynnal ymchwiliad i’r gefnogaeth gafodd ei gynnig i’r merched gan asiantaethau gan gynnwys y gwasanaethau cymdeithasol.
Ychwanegodd y llefarydd bod “y drws ar agor” i’r ferch a’i theulu a’u bod yn awyddus i wneud popeth yn eu gallu i helpu’r merched.
Yn ystod yr achos daeth yn amlwg bod yr heddlu wedi colli sawl cyfle i arestio aelodau’r cylch.