Mae 13 o rybuddion am lifogydd yng Nghymru heddiw ar ôl i’r  glaw trwm achosi trafferthion ddoe.

Caerfyrddin wnaeth ddioddef waethaf er bod rhybudd newydd am lifogydd yn ardal Wrecsam ac mewn rhannau eraill o Glwyd bore ma.

Pembre yn Sir Gaerfyrddin oedd y lle gwlypaf yn y DU ddoe.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw tua 20 o weithiau yn Sir Gaerfyrddin dros nos.

Er nad oedd rhaid i neb adael eu cartrefi, bu diffoddwyr tân yn helpu trigolion i bwmpio dŵr o’u tai.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn annog pobl i edrych ar eu gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion llifogydd ym Mhowys a Sir Gaerfyrddin.