Nick Milligan, laddwyd yng Nghernyw
Mae’r heddlu wedi enwi’r tad laddwyd efo’i ferch ar ôl damwain efo cwch modur yng Nghernyw.

Roedd Nicholas Milligan 51 oed o Lundain yn uwch reolwr efo BSkyB.

Dyw enw’i ferch ddim wedi cael ei gyhoeddi hyd yma.

Mae Mrs Milligan a thri arall o’i phlant yn derbyn triniaeth am anafiadau difrifol i’w coesau mewn ysbyty yn Plymouth.

Roedd y teulu ar eu gwyliau yn Padstow, Cernyw ac ar y môr mewn cwch modur pan gafon nhw eu taflu allan o’r cwch wnaeth wedyn fethu stopio a tharo’r teulu y naill ar ôl y llall.

Cafodd Mr Milligan a’i ferch eu lladd yn y fan a’r lle.

Cafodd y fam 39 oed, ei mab pedair oed a dwy ferch 10 a 12 oed eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Derriford yn Plymouth yn diodde o gyfres o anafiadau, sydd yn ôl y Ditectif Uwch Arolygydd Jim Colwell o Heddlu Dyfnaint a Chernyw “yn bygwth neu yn newid eu bywydau.”

Roedd y teulu o Lundain ar wyliau yn yr ardal dros Ŵyl y Banc pan ddigwyddodd y ddamwain yn aber Camel ger Padstow toc cyn 4 o’r gloch brynhawn ddoe.

Roedd y cwch yn eiddo i’r teulu.

Dewrder

Roedd badau achub o Rock a Padstow hofrenyddion yr awyrlu o Culdrose a Chivenor a thimau gwylwyr y glannau o Newquaym St Merryn a Polzeath yn yr ardal o fewn munudau i’r ddamwain ddigwydd.

Roedd y bad achub yn dal i droelli allan o reolaeth wrth i’r achubwyr gyrraedd ac mae’r gwasanaethau i gyd wedi cael eu canmlo am eu hymateb sydyn.

Mae hyfforddwr sglefrio dwr sy’n cael ei enwi’n lleol fel Charlie Toogood o’r Camel Ski School wedi cael ei ganmol am ei ddewrder yn neidio ar y cwch o’r bad achub er mwyn diffodd yr injan.

Dywedodd Matt Pavitt , aelod o Wylwyr y Glannau Gogledd Cernyw wrth y BBC bod nifer o bobl lleol wedi bod yn tu hwnt o ddewr gan atal y cwch rhag achosi rhagor o anafiadau a difrod.

“Fel y gallwch ddychmygu, mae’r cwch yn un mawr iawn. Mae tua wyth metr o hyd gyda injan cryf iawn, iawn ar y cefn. Roedd yn mynd rownd a rownd mewn cylchoedd ac fe wnaeth un o’r cychwyr lleol lwyddo i fynd ochr yn ochr â’r cwch a neidio o un cwch i’r llall er mwyn dod a’r cwch modur dan reolaeth. Dyma ddewrder anhygoel wnaeth achub bywydau heb os.”

Fe wnaeth Charlotte Jacobs gysylltu efo’r RNLI trwy’r cyfrif trydar.

“Fe welson ni ddewrder anhygoel yn Padstow heddiw wrth i’r ddamwain fynd o ddrwg i waeth. Mae’r dynion oedd yn rhan o’r ymgyrch yn haeddu medalau,” meddai.

Mae’r ymchwiliad i’r hyn achosodd y ddamwain eisoes ar y gweill ac mae’r heddlu yn gofyn i bawb sydd gan luniau neu fideo o’r hyn ddigwyddodd i gysylltu â nhw yn syth.