Padstow
Mae mam a thri o’i phlant yn derbyn triniaeth am anafiadau difrifol mewn ysbyty yn Plymouth ar ôl damwain efo cwch modur laddodd ei
gŵr a’i merch wyth oed.

Roedd y teulu ar eu gwyliau yn Padstow, Cernyw ac ar y môr mewn cwch modur pan gafon nhw eu taflu allan o’r cwch wnaeth wedyn fethu stopio a tharo’r teulu y naill ar ôl y llall.

Cafodd y tad 51 oed a’i ferch wyth oed eu lladd yn y fan a’r lle.

Cafodd y fam 39 oed, ei mab pedair oed a dwy ferch 10 a 12 oed eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Derriford yn Plymouth yn diodde o gyfres o anafiadau, sydd yn ôl y Ditectif Uwch Arolygydd Jim Colwell o Heddlu Dyfnaint a Chernyw “yn bygwth neu yn newid eu bywydau.”

Roedd y teulu o Lundain ar wyliau yn yr ardal dros <!– /* Font Definitions */ @font-face {font-family:”MS 明朝”; panose-1:0 0 0 0 0 0 0 0 0 0; mso-font-charset:128; mso-generic-font-family:roman; mso-font-format:other; mso-font-pitch:fixed; mso-font-signature:1 134676480 16 0 131072 0;} @font-face {font-family:”Cambria Math”; panose-1:2 4 5 3 5 4 6 3 2 4; mso-font-charset:0; mso-generic-font-family:auto; mso-font-pitch:variable; mso-font-signature:3 0 0 0 1 0;} @font-face {font-family:Cambria; panose-1:2 4 5 3 5 4 6 3 2 4; mso-font-charset:0; mso-generic-font-family:auto; mso-font-pitch:variable; mso-font-signature:3 0 0 0 1 0;} /* Style Definitions */ p.MsoNormal, li.MsoNormal, div.MsoNormal {mso-style-unhide:no; mso-style-qformat:yes; mso-style-parent:””; margin:0cm; margin-bottom:.0001pt; mso-pagination:widow-orphan; font-size:12.0pt; font-family:Cambria; mso-ascii-font-family:Cambria; mso-ascii-theme-font:minor-latin; mso-fareast-font-family:”MS 明朝”; mso-fareast-theme-font:minor-fareast; mso-hansi-font-family:Cambria; mso-hansi-theme-font:minor-latin; mso-bidi-font-family:”Times New Roman”; mso-bidi-theme-font:minor-bidi; mso-ansi-language:EN-US;} .MsoChpDefault {mso-style-type:export-only; mso-default-props:yes; font-family:Cambria; mso-ascii-font-family:Cambria; mso-ascii-theme-font:minor-latin; mso-fareast-font-family:”MS 明朝”; mso-fareast-theme-font:minor-fareast; mso-hansi-font-family:Cambria; mso-hansi-theme-font:minor-latin; mso-bidi-font-family:”Times New Roman”; mso-bidi-theme-font:minor-bidi; mso-ansi-language:EN-US;} @page WordSection1 {size:612.0pt 792.0pt; margin:72.0pt 90.0pt 72.0pt 90.0pt; mso-header-margin:36.0pt; mso-footer-margin:36.0pt; mso-paper-source:0;} div.WordSection1 {page:WordSection1;}Ŵyl y Banc pan ddigwyddodd y ddamwain yn aber Camel ger Padstow toc cyn 4 o’r gloch brynhawn ddoe.

Roedd y cwch yn eiddo i’r teulu, sydd heb eu henwi hyd yma, er bod eu perthnasau wedi cael gwybod am yr hyn sydd wedi digwydd.

Dewrder

Roedd badau achub o Rock a Padstow, hofrenyddion yr awyrlu o Culdrose a Chivenor a thimau gwylwyr y glannau o Newquay, St Merryn a Polzeath yn yr ardal o fewn munudau i’r ddamwain ddigwydd.

Roedd y cwch modur yn dal i droelli allan o reolaeth wrth i’r achubwyr gyrraedd ac mae’r gwasanaethau i gyd wedi cael eu canmol am eu hymateb sydyn.

Mae cychwr lleol wedi cael ei ganmol yn benodol am ei ddewrder yn neidio ar y cwch o gwch arall er mwyn diffodd yr injan.

Dywedodd Matt Pavitt, aelod o Wylwyr y Glannau Gogledd Cernyw wrth y BBC bod nifer o bobl lleol wedi bod yn tu hwnt o ddewr gan atal y cwch rhag achosi rhagor o anafiadau a difrod.

“Fel y gallwch ddychmygu, mae’r cwch yn un mawr iawn. Mae tua wyth metr o hyd gyda injan cryf iawn, iawn ar y cefn. Roedd yn mynd rownd a rownd mewn cylchoedd ac fe wnaeth un o’r cychwyr lleol lwyddo i fynd ochr yn ochr â’r cwch a neidio o un cwch i’r llall er mwyn dod a’r cwch modur dan reolaeth. Dyma ddewrder anhygoel wnaeth achub bywydau heb os.”

Fe wnaeth Charlotte Jacobs gysylltu efo’r RNLI trwy’r cyfrif trydar i ganmol yr achubwyr.

“Fe welson ni ddewrder anhygoel yn Padstow heddiw wrth i’r ddamwain fynd o ddrwg i waeth. Mae’r dynion oedd yn rhan o’r ymgyrch yn haeddu medalau,” meddai.

Mae’r ymchwiliad i’r hyn achosodd y ddamwain eisoes ar y gweill ac mae’r heddlu yn gofyn i bawb sydd gan luniau neu fideo o’r hyn ddigwyddodd i gysylltu â nhw yn syth.