Bydd cynhadledd yn cael ei ffrydio’n fyw trwy’r cyfryngau tra’n cael ei chynnal yr un pryd yng Nghaernarfon a Chaerdydd yr wythnos yma i drafod y datblygiadau yn y byd digidol.

Bwriad ‘Creadigidol’ sydd yn cael ei threfnu gan S4C, yw “amlygu’r heriau a’r cyfleoedd sy’n codi wrth i ni symud o oes y cyfryngau newydd i’r byd digidol.”

Bydd y cynhadleddwyr yn cael cyfle i glywed am brosiect sy’n defnyddio technoleg i hyrwyddo dysgu heb ffiniau, deall sut mae elwa o Gronfa Ddigidol S4C a chael gwybod sut mae bwrw ati greu app fydd yn denu cynulleidfa trwy fod yn ddefnyddiol. diddorol a difyr.

Bydd y gynhadledd yn cloi gyda chyflwyniad am y cyfleoedd a’r bygythiadau i’r cyfryngau digidol Cymraeg.

Dywedodd Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C bod y gynhadledd yn greiddiol i ddatblygiadau o fewn S4C.

“Mae nifer o’r cynlluniau da’n ni wedi’u creu yn dod ag elfennau rhyngweithiol i mewn i’n rhaglenni sy’n golygu bod modd i bobl gael gwerth ychwanegol allan o gynnwys S4C. Mae’r bwriad yn dod o fod wedi gwrando ar y gynulleidfa a gweld y ffordd y mae arferion gwylio’n datblygu. I lawer o’n pobl ifanc yn enwedig, mae’r syniad o ddefnyddio dyfais arall – boed yn ffôn, tabled neu’n gyfrifiadur – tra’n gwylio teledu’n gwbl naturiol. Mae S4C yn datblygu gwasanaethau sy’n gwneud yn fawr o’r newid sylweddol yma yn y ffordd ’dan ni’n ymddwyn.”