Stuart Hall adeg derbyn ei OBE (PA)
Roedd gan y darlledwr Stuart Hall stafell arbennig ar ei gyfer yn un o adeiladau’r BBC er mwyn “diddanu” ffrindiau benywaidd.
Dyna honiad un o’i gydweithwyr ar y rhaglen newyddion Look North a oedd yn cael ei darlledu o Fanceinion.
Yn ôl Linda McDougall, roedd hi’n teimlo’n “sâl” ar ôl sylweddoli bod y newyddiadurwr a’r sylwebydd chwaraeon yn euog o gam-drin plant.
Ond roedd pawb yn ymwybodol o weithgareddau Stuart Hall gyda merched, meddai wrth un arall o raglenni newyddion y BBC.
‘Iawn i gyhoeddi enw’
Yn y cyfamser, mae Heddlu Swydd Caerhirfryn wedi amddiffyn eu penderfyniad i gyhoeddi enw Stuart Hall ar ôl iddo gael ei arestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau rhyw.
Heblaw am hynny, medden nhw, fyddai llawer o’r merched a ddioddefodd ddim wedi dod yn eu blaen i gwyno yn erbyn Stuart Hall.
Yn y diwedd, fe gafodd ei gyhuddo o gam-drin deg o ferched rhwng 9 a 17 oed ac o dreisio gwraig 22 oed, a’r holl droseddau rhwng 1968 ac 1986.
Roedd arolwg barn diweddar ym mhapur yr Independent wedi dangos bod tri chwarter y bobol gafodd eu holi yn credu na ddylai’r cyhoedd gael gwybod am enwau pobol sy’n cael eu cyhuddo o dreisio, nes iddyn nhw gael eu dyfarnu’n euog.
Ar hyn o bryd, mae gan bobol sy’n gwneud honiadau am droseddau rhyw yr hawl i aros yn ddi-enw, ond mae hawl i enwi’r sawl sy’n cael ei gyhuddo.
‘Ddim yn deall’
Dywedodd y ddioddefwraig gyntaf i benderfynu peidio aros yn ddi-enw, Jill Saward, fod canlyniadau’r arolwg wedi ei siomi.
“Dydy pobol ddim yn deall y perygl sydd ynghlwm wrth drais rhyw, a dydyn nhw ddim yn gweld yr angen i amddiffyn pobol rhagddo.
“Rwy’n drist iawn fod pobol fel pe baen nhw’n meddwl fod amddiffyn dynion yn aml yn bwysicach nag amddiffyn y sawl, am ba bynnag reswm, sy’n dod yn ddioddefwyr.”