Julian Lewis Jones
Mae’r actor o Gymru, Julian Lewis Jones, wedi achub walabi rhag boddi yn harbwr Darwin yn Awstralia.

Cafodd yr anifail ei weld yn y dŵr ger Weed Reef gan griw oedd yn ffilmio rhaglen ddogfen am bysgota.

Dywedodd Julian Lewis Jones wrth y cyfryngau yn Awstralia fod yr anifail “yn llawn ofn”.

“Fe wnaethon ni yrru ein modur trydanol i fyny i’r walabi fel nad oedden ni wedi codi ofn arno fo, ac fe wnes i afael ynddo fo; wnaethon ni’i heglu hi at y lan a rhoi dŵr iddo fo a’i nyrsio fo fel ei fod o’n iach eto.”

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni teithiau lleol fod yr anifail yn lwcus ei fod yn dal ar dir y byw.

Mae Julian Lewis Jones yn fwyaf adnabyddus am ei ran yn y ffilm Invictus, ac mae e hefyd wedi ymddangos yn y cyfresi teledu Spooks, Stella a Torchwood.