Mattews yn ei ddyddiau gyda Chaerdydd
Mae amddiffynwyr Celtic a Chymru wedi synnu ei gyd chwaraewyr trwy ganu iddyn nhw.

Cafodd Adam Matthews, 21, a arwyddodd i Celtic o Gaerdydd yn 2011, ei ffilmio yn canu With You gan Chris Brown mewn noson elusennol a drefnwyd gan y clwb yn Glasgow nos Sul.

Ei berfformiad oedd uchafbwynt y noson yn ôl papur newydd The Scotish Sun ac roedd y gynulleidfa ar eu traed yn ei gymeradwyo ar ddiwedd y perfformiad.

Mae’r fideo ohono’n perfformio wedi dechrau mynd yn feiral, tra bod ei berfformiad wedi codi £1000 at ymddiriedolaeth elusennol Celtic.