Mae Prifardd wedi dweud bod yn rhaid i eisteddfodau bach newid ac edrych am atebion gan rai mwy llwyddiannus i atal eu tranc.
Roedd Meirion MacIntyre Huws, sy’n Swyddog Datblygu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, yn siarad ar Newyddion Naw neithiwr pan ddywedodd bod rhai eisteddfodau bach yn “gwegian”.
Mynd a’r gyllell
“Mae’n rhaid i’r llawfeddyg fynd a’r gyllell weithiau,” meddai Meirion MacIntyre Huws wrth y BBC.
“Mae’n rhaid bod yn ddewr, ac mae’r claf ofn mae’n siŵr; ond mae’n rhaid mynd a’r gyllell, tynnu darn o’r drwg o ’na.
“Nid torri pen y claf i ffwrdd – does ’na neb yn gofyn am hynny, ond tynnu’r drwg allan a rhoi gwell cyfle i oroesi i’r dyfodol i’r claf; ac efallai bod hynny’n wynebu ambell ’steddfod”.
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, Megan Jones, ei bod hi’n cydnabod y gall rhai eisteddfodau ddod i ben yn y blynyddoedd nesa ond ei bod hi’n credu mai ail-edrych ar y cystadlaethau a’i gwneud nhw’n fwy modern yw un ffordd ymlaen.