Ian Jones
Fe fydd cyllideb S4C yn cael ei thorri 1% yn ystod y ddwy flynedd nesaf, yn ôl y Prif Weithredwr, Ian Jones.

Dywedodd wrth raglen Manylu BBC Cymru fod Llywodraeth Prydain, yn sgil y Gyllideb ym mis Mawrth, wedi penderfynu y bydd 1.09% yn llai o arian yn cael ei roi i S4C yn ystod 2013/14.

Bydd y gyllideb yn cael ei thorri 1.06% yn 2014.

Eisoes, roedd Llywodraeth Prydain wedi addo y byddai’n cyfrannu £6.7 miliwn i S4C yn 2013/14, a £7 miliwn y flwyddyn ganlynol oherwydd bydd rhan fwyaf o gyllideb y sianel yn dod o ffi’r drwydded.

Mewn datganiad, dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: “Ry’n ni wedi cael gwybod gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol am y toriadau pellach i’w cyllideb ar gyfer darlledu Cymraeg, a ry’ ni’n gweithio’n fewnol i ddelio gyda sgil effeithiau hynny.

“Mae’r toriadau hyn yn ychwanegol i’r toriad o 36% mewn termau real i’n cyllideb ers 2010.

“Ry’n ni wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol ac ry’n ni am barhau i drafod gyda DCMS ynglŷn â’i hymrwymiad i gyllido darlledu drwy’r Gymraeg rhwng nawr ac Adolygiad Gwariant y Llywodraeth fis Mehefin.

“Mae’r adolygiad hwnnw’n effeithio ar gyfnod y tu hwnt i ymrwymiad ariannol presennol y llywodraeth i S4C – ar ôl 2015.”