Mae cyn blismon gyda heddlu Surrey wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad i daliadau honedig i swyddogion cyhoeddus.

Cafodd y dyn 41 oed ei arestio am 6yb bore ma yn ei gartref yn Sussex ar amheuaeth o gamymddygiad mewn swydd gyhoeddus.

Cafodd y cyn blismon, sy’n cael ei holi yng ngorsaf yr heddlu yn Sussex, ei arestio fel rhan o Operation Elveden, sef ycmhwiliad Scotland Yard i honiadau o daliadau llwgr i swyddogion cyhoeddus.

Mae 62 o bobl bellach wedi cael eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad sy’n cael ei gynnal ar y cyd ag Operation Weeting, sef ymchwiliad Scotland Yard i achosion o hacio ffonau.