Leanne Wood
Mae’r Aelod Cynulliad Llafur Mick Antoniw wedi herio arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood i gyhoeddi na fydd hi’n sefyll ar restr ranbarthol etholiadau nesaf y Cynulliad Cenedlaethol yn 2016.
Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd Leanne Wood, sy’n Aelod Cynulliad Rhanbarth Canol De Cymru, y byddai’n peryglu ei sedd er mwyn ymladd etholaeth y Rhondda.
Mae’r sedd wedi bod yn nwylo Llafur ers 2003, ond mae Leanne Wood, sy’n hanu o’r Rhondda ac yn dal i fyw yno, yn gobeithio y bydd ei chysylltiadau lleol yn helpu Plaid Cymru i dorri tir newydd.
Mae hi wedi sefyll dros etholaeth y Rhondda mewn dau Etholiad Cyffredinol gan golli i’r Blaid Lafur bob tro.
Cafodd y rheolau eu newid gan Ysgrifennydd Cymru, David Jones fel bod modd i ymgeiswyr ymddangos ar y rhestr ranbarthol ac ar restr yr etholaeth ar yr un pryd.
Ond hyd yma, dydy Leanne Wood ddim wedi dweud ar ba restr y bydd hi’n ymddangos.
‘Angen bod yn agored gyda phobol Cymru’
Dywedodd Mick Antoniw: “Mae angen i Leanne Wood fod yn agored gyda phobol Cymru a dweud wrthyn nhw’n union beth yw ei bwriad hi.
“Byddai’n embaras mawr iddi sefyll ar y rhestr ranbarthol fisoedd yn unig ar ôl gwneud y datganiadau powld yma amdani hi ei hun a’i chydweithwyr cenedlaetholgar yn cymryd risg drwy amddifadu seddau rhanbarthol diogel.
“Yn blwmp ac yn blaen, allai neb ei chymryd hi o ddifri eto pe bai hi’n cefnu ar ei gair ac yn derbyn diogelwch cymharol sedd ranbarthol i achub ei gyrfa wleidyddol.
“Daeth yr amser iddi ddatgan ei bwriad yn glir a heb amheuaeth.”
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod “diddordeb AC Pontypridd yng ngyrfa wleidyddol Leanne Wood yn tanlinellu’r pryderon sydd gan y Blaid Lafur am fygythiad Leanne Wood a Phlaid Cymru i’w cadarnle yn y Cymoedd.”
Ond mae Plaid wedi gwrthod datgelu beth yw bwriad Leanne Wood.
Leighton Andrews, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, yw AC presennol yr etholaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Leighton Andrews: “Gallaf gadarnhau y bydd Leighton Andrews yn sefyll fel ymgeisydd etholaeth ac felly, fydd e ddim ar y rhestr ranbarthol.”