Mae Caerdydd ymhlith trefi a dinasoedd mwyaf heddychlon gwledydd Prydain.

Mae “Mynegai Heddwch y DU”, sydd wedi’i gyhoeddi gan y Sefydliad Economeg a Heddwch, yn dangos bod nifer y troseddau difrifol a threisgar yn y brifddinas wedi lleihau’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf.

Yn ôl y mynegai, mae presenoldeb yr heddlu yng Nghaerdydd yn is na’r rhan fwyaf o drefi a dinasoedd eraill Prydain.

Mae lefel y troseddau difrifol trwy Brydain gyfan wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf.

Dangosodd ymchwil gan Brifysgol Caerdydd fod nifer y bobol sydd wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty oherwydd troseddau difrifol hefyd wedi lleihau.

Dywed yr adroddiad fod “troseddau a lladd wedi gostwng yn sylweddol”.

“Mae’r gostyngiad dros y ddegawd ddiwethaf wedi arwain at gyfradd lladd yn y DU sydd bron yn cyfateb i gyfartaledd Gorllewin Ewrop, ac mae wedi cyrraedd ei lefel isaf ers 1978.

“Fodd bynnag, mae cyfradd troseddau treisgar y DU yn sylweddol uwch na chyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd.”