Nwyddau ar werth mewn swyddfa bost (CCA 1.))
Mae gweithwyr y Swyddfa Bost yn cynnal streic arall heddiw mewn anghydfod dros gau swyddfeydd post, a chyflogau.
Bydd y streic heddiw’n taro 370 o swyddfeydd post y stryd fawr ar draws gwledydd Prydain.
Maen nhw’n anfodlon gyda chynllun i gau 70 o’r swyddfeydd post mawr a symud y cownteri i siopau lleol er mwyn arbed costau.
Mae wyth o’r canghennau mawr sy’n wynebu’r fwyell yng Nghymru – Caergybi, Llangefni, Y Rhyl, Treffynnon, Caerfyrddin, Treforys, Castell Nedd a Phort Talbot. Daw’r streic yma yn fuan ar ôl un arall gafodd ei chynnal ar Ddydd Sadwrn y Pasg.
Taro canol trefi
Mae Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu yn dweud bydd cannoedd o swyddi yn cael eu colli oherwydd y cynlluniau ac y bydd canol trefi yn cael ergyd arall.
Mae swyddfeydd y stryd fawr – Canghennau’r Goron – yn delio gydag un rhan o bump o fusnes y Swyddfa Bost a 40% o werthiant gwasanaethau ariannol medden nhw.
“Gall y Swyddfa Bost sôn am weddnewid a chynaladwyedd ond y realiti yw mai geiriau yw’r rhain am gau swyddfeydd, newid rhwydwaith y swyddfeydd post yn llwyr a throsglwyddo’r gwasanaethau i gorfforaethau sydd wedi eu hadeiladu rownd incwm,” meddai Billy Hayes, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb.
“Y Llywodraeth yw’r eliffant yn y stafell yma a nhw sy’n gyfrifol yn y pen draw,” meddai.
Yn ôl Kevin Gilliland, cyfarwyddwr rhwydwaith a gwerthiant y Swyddfa Bost, bydd “97% o’r rhwydwaith yn gweithredu yn ôl yr arfer” heddiw.
Ateb y Swyddfa
Dywedodd fod Canghennau’r Goron yn colli £40m y flwyddyn a bod rhaid gwneud arbedion.
“Byddwn ni’n buddsoddi £70m mewn 300 o ganghennau’r Goron ac yn cynnig uno 70 cangen gyda busnes addas.
“Dyw’r canghennau hyn ddim yn cau. Byddai symud i safle mewn siopau yn cynnig yr un cynnyrch a gwasanaeth uchel ag unrhyw gangen arall.”