Rhai o'r seddi gwag (PA)
Mae yna bryder y bydd rhaid i elusennau aros am flynyddoedd cyn cael unrhyw arian yn ôl o fuddsoddiad y Loteri Cenedlaethol yn y Gêmau Olympaidd.

Mae angen bod yn fwy agored am yr hyn sy’n digwydd i’r arian a ddaw o werthu safleoedd y Gêmau, meddai Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin.

Ac, wrth wneud hynny, maen nhw’n dweud bod angen diogelu buddiannau’r Loteri a roddodd fwy na £2 biliwn tuag at gynnal y Gêmau.

Y cefndir

Y fargen oedd fod y Loteri wedyn yn cael peth o’r elw wrth i safleoedd y Gêmau gael eu gwerthu.

Yn ôl adroddiad y Pwyllgor, fe allen nhw orfod aros tan y 2020au, does dim digon o eglurder am yr hyn sy’n digwydd i’r adnoddau ac mae peryg nad yw buddiannau’r Loteri’n cael lle digon amlwg.

Roedd elusennau wedi colli arian wrth i gronfeydd y Loteri gael eu hailgyfeirio i’r Gêmau, meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Margaret Hodge.

Condemnio seddi gwag

Mae’r Pwyllgor hefyd yn feirniadol am fod cyn lleied o docynnau wedi eu cynnig i’r cyhoedd ar gyfer rhai digwyddiadau.

Roedd llawer o seddi’n wag oherwydd fod pobol a gafodd tocynnau braint wedi cadw draw.