Mae dynes a dau o blant wedi cael eu darganfod wedi marw mewn tŷ ar gyrion Llundain.

Cafwyd hyd i’r ddynes 34 oed a dwy eneth, naw a phedair oed, yn Midcroft ym maestref Ruislip.

Dywed Scotland Yard fod ditectifs o’r adrannau Dynladdiad a Throseddau Difrifol yn ymchwilio i’r digwyddiad. Mae’r marwolaethau’n cael eu trin fel rhai di-esboniad ar y funud.