Mae tri dyn wedi cael eu harestio wedi i fws daro i mewn i adeilad yn Amwythig.
Yn ôl adroddiadau, cafodd brêc llaw y cerbyd ei ryddhau cyn i’r bws rolio ymlaen.
Chafodd neb anafiadau yn y digwyddiad mewn gorsaf fysiau tua 12.50am y bore yma.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod y cerbyd wedi croesi’r heol cyn taro yn erbyn adeilad yr orsaf.
Cafodd y tri dyn eu harestio ar amheuaeth o symud cerbyd heb ganiatâd y perchennog.