Mae Uwch Gynghrair Lloegr wedi dewis y cwmni technoleg Hawkeye i ddarparu system dechnoleg i benderfynu a yw’r bêl wedi croesi llinell y gôl.

Roedd y system Almaenig, GoalControl hefyd yn y ras i ennill y cytundeb.

Cafodd Hawkeye ei werthu i gwmni Sony ddwy flynedd yn ôl, ac mae’n darparu systemau i’r byd tenis a chriced.

Roedd yr Uwch Gynghrair yn allweddol yn y broses o sefydlu Hawkeye yn 2007.

Mae disgwyl i system GoalControl gael ei defnyddio yng Nghwpan y Byd ym Mrasil y flwyddyn nesaf, yn dilyn treialon llwyddiannus yn ystod Cwpan Confederations yn gynharach eleni.