Nathan Cleverly
Mae’r Cymro Nathan Cleverly wedi dweud y bydd ei ornest yn erbyn yr Almaenwr Robin Krasniqi yn digwydd ar Ebrill 20.

Roedd Cleverly i fod i amddiffyn ei deitl yn y pwysau gordrwm yn erbyn Krasniqi yn Ebrill y llynedd ond bu’n rhaid gohirio’r ornest gan fod y Cymro’n sâl.  Oherwydd trafferthion gweinyddol ni fu’n bosibl cynnal yr ornest ar Mawrth 16.

Yn ôl Cleverly mae’r ddau focsiwr yn awyddus bod yr ornest yn cael ei chynnal ar 20 o Ebrill.